Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni
Noddwyd gan Mark Isherwood AS

Dyddiad:

22 Chwefror 2024, 10:00am – 11:30am

 

Lleoliad:

Hybrid – Tŷ Hywel a Microsoft Teams

 

Yn bresennol:

Deiliaid Swyddi’r Grŵp Trawsbleidiol

 

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)
Sioned Williams AS
Ioan Bellin (ar ran Delyth Jewell AS)
Ryland Doyle (ar ran Mike Hedges AS)
Danny Grehan (ar ran Heledd Fychan AS)

Rhanddeiliaid


Ben Saltmarsh (NEA), Maisie Chatfield (NEA), Duncan Carter (Calor), Gareth Phillips (Llywodraeth Cymru), Hannah Peeler (Gofal a Thrwsio Cymru), Sandy Ruthven (Asiantaeth Ynni Hafren Gwy), Joel Davies (Sefydliad Bevan), Steven Bletsoe (Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl), Matthew Dicks (CIH Cymru), Mason Steed (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni), Angharad Rhys (Age Cymru), Ben Coates (Asthma + Lung UK), Ceri Cryer (Age Cymru), David Cowdrey (MCS Foundation), David Morgan (Centrica), Faye Patton (Gofal a Thrwsio Cymru), Claire Gilhooly (Cyngor Caerdydd), Hannah Sorley (Cyngor ar Bopeth Cymru), Ashleigh Harris (Cyngor Bro Morgannwg), James Radcliffe (Ofgem), Jo Seymour (Cymru Gynnes), Elizabeth Lambert (Cyngor Caerdydd), Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth Cymru), Nel Price (Age Cymru), Kelly Pardon (Cyngor Bro Morgannwg), Peter Hughes (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni), Llyr Randles (Cyngor Caerdydd), Samuel Lamont (MCS Foundation), Shelley Webber (Cyngor Sir y Fflint), Simon Lannon (Cyngor Caerdydd), Siôn Williams (mySociety), Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Ymddiheuriadau

 

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd 

Llyr Gruffydd AS

Jane Dodds AS 

William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion) 

Joseph Carter (Asthma + Lung UK) 

David Kirby (CIOB) 

Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear Cymru)


 

Crynodeb o’r drafodaeth

 

1.       Croeso a chyflwyniad (Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol)

a.       Estynnwyd croeso i’r sawl oedd yn bresennol a rhoddwyd trosolwg o’r agenda.

b.       Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir gan Sioned Williams AS a Sandy Ruthven (Asiantaeth Ynni Hafren Gwy).

c.       Rhoddwyd trosolwg o’r papur i’w nodi:

                                             i.            Llythyr at Amanda Solloway AS, y Gweinidog Defnyddwyr Ynni a Fforddiadwyedd, wedi’i lofnodi ar y cyd gan Mark Isherwood AS, Sioned Williams AS a Jack Sargeant AS.

 

2.       Diweddariad (Ben Saltmarsh, Pennaeth NEA Cymru)

a.       Darparwyd diweddariad ar ran NEA. Roedd hyn yn cynnwys:

                                                   i.            Crynodeb o’r prif ddatblygiadau, gan gynnwys codi’r cap ar brisiau tua £100 (5%) ym mis Ionawr gan ddod â’r bil a delir am y ddau danwydd drwy ddebyd uniongyrchol i £1,928 y flwyddyn ar gyfartaledd; mae gwahaniaethau rhanbarthol yn parhau i fod; mae cefnogaeth y llywodraeth wedi dod i ben; mae cyfanswm y ddyled ynni wedi cyrraedd £3 biliwn ledled Prydain Fawr.

                                                 ii.            Diweddariad am y cyhoeddiad nesaf o ran y cap ar brisiau ddydd Gwener 23 Chwefror. Mae NEA yn disgwyl i’r bil cyfartalog gael ei ostwng 12%. Dyna tua 50% yn fwy nag yr oedd cyn yr argyfwng.

                                               iii.            O ran marchnadoedd, mae Ofgem yn parhau i wneud newidiadau drwy gyhoeddi capiau ar brisiau ac amodau’r drwydded. Mae pum cyflenwr wedi cael sêl bendith i orfodi gosod mesuryddion rhagdalu eto (EDF, ScottishPower, Octopus, E. ON a TruEnergy).

1.       Mason Steed (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni): Pa gamau y mae rhaid i gyflenwr ynni eu cymryd cyn cael caniatâd i ailddechrau?

a.       Rhaid i gyflenwyr ddangos eu bod yn barod i weithredu yn unol â’r rheolau newydd. Mae Ofgem wedi gosod pum amod, gan gynnwys asesiad annibynnol ac archwiliad o unrhyw osodiadau ar gam, y mae rhaid i Fyrddau Cyflenwyr dystio iddynt.

2.       Matthew Dicks (CIH Cymru):  A oes unrhyw ystadegau ar gyfer faint sydd eisoes wedi torri’r rheolau?

a.       Mae tystiolaeth amrywiol yn y cyfryngau ac roedd Ofgem hefyd yn cynnal ei adolygiad ei hun o gydymffurfiaeth hanesyddol y cyflenwr. Wrth symud ymlaen, mae’n debygol y bydd rhai pobl yn dal i syrthio drwy’r rhwyd. Rhaid inni roi gwybod i’r rheoleiddiwr pan fydd hyn yn digwydd.

b.       Mae NEA yn cynnal Fforymau rhanbarthol Tlodi Tanwydd Cymru  ym mis Mai. Gwahoddir Ofgem i drafod y rheolau newydd â gweithwyr rheng flaen.

3.       Hannah Peeler (Gofal a Thrwsio Cymru): A oes rhagor o wybodaeth am yr asesiad pellach y mae cyflenwyr yn ystyried bod ei angen?

a.       Nid y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi’i rannu – gan gynnwys bod rhaid i gyflenwyr gymryd, o dan ‘Egwyddor Ragofalus’, fod unrhyw gwsmer sy’n wynebu mesurydd rhagdalu anwirfoddol oherwydd dyled mewn sefyllfa fregus yn ariannol, asesu ei ‘Allu i Dalu’, ac os na all y cwsmer fforddio lefel resymol o ddefnydd ac y bydd yn aml, neu am gyfnodau hir, yn hunan-ddatgysylltu er ei anfantais. Yna ni chaiff y cyflenwr fynd yn ei flaen.

                                               iv.            Disgwylir i’r Rhaglen Cartrefi Clyd fynd yn fyw ar 1 Ebrill 2024. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto pwy sydd wedi ennill y contractau.

                                                 v.            Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru’r camau gweithredu byrdymor â blaenoriaeth o fewn ei Chynllun Trechu Tlodi Tanwydd. Hoffai NEA a’r Glymblaid Tlodi Tanwydd weld camau gweithredu i gyflwyno targedau interim ar sail effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys. Mae’r manteision a’r costau cysylltiedig wedi’u hamlinellu yn fersiwn ddiweddaraf Gweithredu Ynni Cenedlaethol o Fonitor Tlodi Tanwydd y DU.



b.       Holi ac Ateb a sylwadau

                                                   i.            Siaradodd Sandy Ruthven (Asiantaeth Ynni Hafren Gwy) am bryderon ynghylch diffyg cronfeydd cymorth i aelwydydd ar gyfer y gaeaf nesaf gan na all rhai aelwydydd ymdopi â’r ddyled.

                                                 ii.            Soniodd Hannah Peeler (Gofal a Thrwsio Cymru) am bryder Gofal a Thrwsio ynghylch sgil-effaith costau wrth i ragor o incwm gael ei wario ar danwydd ac ynni, sy’n golygu bod llai o arian ar gael i wneud gwaith trwsio pwysig.

                                               iii.            Dywedodd Steven Bletsoe (Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl) yr hoffai gael cyfarfod â Gweithredu Ynni Cenedlaethol i drafod Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni yn y sector rhentu preifat a barn landlordiaid, gan na allai rhai eiddo byth gyrraedd EPC C.

a.       Nodwyd bod Monitor Tlodi Tanwydd y DU hefyd yn cynnwys sylwadau i ddechrau’r sgwrs ynghylch ‘ystyriaeth resymol ymarferol’ a allai, er enghraifft, gydnabod ystyriaethau pan na fo mesurau’n gost-effeithiol, yn afresymol o ddrud, neu’n gorbwyso gwerth y cartref.

                                               iv.            Mae Mason Steed (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni) yn nodi bod rhai pobl yn ofni gofyn i landlordiaid wella effeithlonrwydd ynni cartrefi oherwydd costau ychwanegol posibl rhent.

a.       O dan y cynllun Nyth presennol, ni chaniateir i landlordiaid preifat godi’r rhent am gyfnod o amser gan fod gwelliannau’n cael eu gwneud. Wrth gwrs, mae gwelliannau hefyd yn rhoi manteision i landlordiaid, yn ogystal â thenantiaid. Mynegwyd pryder hefyd am glymu lefelau rhent wrth dystysgrifau perfformiad ynni, gan y gallai hyn olygu bod y bobl dlotaf yn byw yn y cartrefi gwaethaf eu cyflwr a mwyaf aneffeithlon. 

                                                 v.            Mae Lindsey Kearton (Cyngor ar Bopeth Cymru) yn tynnu sylw at y dystiolaeth sy’n dod i law Cyngor ar Bopeth sy’n ymwneud â dyled ynni. Mae lefel gyfartalog y ddyled wedi cynyddu £500 yn ystod y tair blynedd diwethaf.

3.       Blaenoriaethau presennol a sesiwn holi ac ateb gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip (gan gynnwys briff technegol gan swyddogion ar y Rhaglen Cartrefi Clyd)

 

a.       Darparwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes tlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys:

                                                               i.            Y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2024 ymlaen

                                                             ii.            Gweithio gydag Awdurdodau Lleol a CLlLC i ddenu mwy o gymorth a thyfu ECO Flex

                                                           iii.            Yn siomedig bod Ofgem eisoes wedi rhoi sêl bendith i rai cyflenwyr ddechrau gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu; wedi cwrdd â chadeirydd Ofgem i drafod a bydd yn monitro’r sefyllfa.

a.       Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pryderu bod rhaid i gwsmeriaid gael gwiriad credyd i beidio â defnyddio mesurydd rhagdalu, rhwystr sydd wedi’i godi gydag Ofgem.

                                                           iv.            Wedi cwrdd â’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i ddeall sut y gall cyflenwyr ynni ddefnyddio casglwyr dyledion achrededig.

                                                             v.            Y taliadau sefydlog yng Ngogledd Cymru yw’r uchaf ym Mhrydain o hyd. Angen brys am adolygiad mwy cyfannol o daliadau sefydlog.

                                                           vi.            Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol.

                                                          vii.            Cyllid parhaus ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol a’r Sefydliad Banc Tanwydd.

                                                        viii.            Ymgyrch genedlaethol i fanteisio ar fudd-daliadau sy’n para tan fis Mawrth.

                                                            ix.            Lansiwyd Siarter Budd-daliadau Cymru ym mis Ionawr.

b.       Briff technegol ar y Rhaglen Cartrefi Clyd, a ddarperir gan Gareth Phillips, Llywodraeth Cymru:

                                                         i.            Ar y trywydd iawn i ddisodli’r cynllun presennol dan arweiniad galw o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

                                                       ii.            Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar y rhaglen newydd fis nesaf.

                                                     iii.            Cynllun Nyth estynedig i sicrhau cyfnod pontio llyfn.

                                                     iv.            Yn canmol cynlluniau eraill i ddenu cymaint â phosibl o gynlluniau eraill ledled Prydain Fawr.

                                                       v.            Strategaeth ymgysylltu i sicrhau y bydd y cynllun newydd yn targedu’r deiliaid tai iawn.

                                                     vi.            Mae’r newidiadau yn y cynllun yn cynnwys:

a.       Gwasanaeth cynghori sy’n annibynnol ar gyflawni a bydd hefyd yn asesu cymhwysedd ar gyfer cynlluniau eraill (megis ECO, Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr)

b.       Yn cynnig cyngor ynghylch effeithlonrwydd ynni a manteisio i’r eithaf ar incwm

c.       Diweddariadau i feini prawf cymhwysedd

                                                                                                               i.      Aelwydydd incwm isel; cartrefi sydd â thystysgrif perfformiad ynni o E, F neu G, neu D os oes cyflwr iechyd cydnabyddedig.

                                                                                                             ii.      Gall deiliaid tai heb dystysgrif perfformiad ynni wneud cais o hyd.

d.       Gwariant fesul cartref – mae’r trothwy ariannol uchaf wedi cynyddu’n sylweddol. Os yw gwerth ymyriadau yn fwy na’r terfyn, gall y gosodiad barhau yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru cyhyd â’i bod yn werth am arian.

e.       Mae nifer o geisiadau yn bosibl.

f.        Ôl-osod yn unol â safon PAS 2035, gan gynnwys gwneud iawn i ddeiliaid tai os na wneir pethau’n gywir.

g.       Bydd nifer y cartrefi sy’n cael eu trin yn dibynnu ar y cymysgedd o eiddo a chymhlethdod y mesurau.

c.       Holi ac Ateb a sylwadau

                                                                     i.            Mark Isherwood AS Ydych chi’n gosod unrhyw safonau achredu?

a.       Gareth Phillips: PAS 2035 yw safon y diwydiant. Mae’r cynllun gwneud iawn ar gael drwy’r egwyddor honno. Mae angen achrediad cyn y gall gosodwyr weithio ar y cynllun.

                                                                   ii.            Mae Sandy Ruthven yn nodi bod Asiantaeth Ynni Hafren Gwy yn rhedeg y cynllun uwchraddio cartrefi yn Lloegr. Yn aml yn ôl-osod cartrefi lle mae pobl yn dlawd o ran incwm ond yn gyfoethog o ran asedau. Wedi cyflawni 10% o’r targed cenedlaethol yn y maes hwnnw yn unig sy’n dangos nad yw’r cynllun yn rhedeg yn dda. Biwrocrataidd iawn. Mae’n werth edrych ar y cynllun uwchraddio cartrefi i ddysgu rhai gwersi.

a.       Gareth Phillips: Rydym wedi edrych ar gynlluniau eraill i ddysgu gwersi ac i wneud yn well.

                                                                 iii.            Sioned Williams AS yn gofyn pam y byddai’n fwy priodol weithiau i drwsio boeler na chymryd ymyriad arall.

a.       Gareth Phillips: Gellir trwsio boeler cymharol newydd os nad yw wedi cyrraedd diwedd ei oes waith. Cyfle i wneud yr eiddo yn gynnes ac i wneud rhywbeth sy’n fwy ecogyfeillgar yn y tymor hir. Caiff mesurau eu hystyried fesul achos.

                                                                 iv.            Mae Sioned Williams AS yn cyfeirio at ddiffyg deialog yn y cynllun presennol rhwng y llinell gynghori, cleientiaid a gwasanaethau cynghori sy’n eu hatgyfeirio unwaith y bydd mesurau wedi’u gosod. A fydd y berthynas yn gryfach yn y cynllun newydd?

a.       Gareth Phillips: Ie.

                                                                   v.            Mae Duncan Carter (Calor) yn nodi bod aneffeithlonrwydd ynni rhai cartrefi’n golygu y gallai newid i bwmp gwres ffynhonnell aer gynyddu costau ynni. Ai’r gosodwr sy’n asesu hynny?

a.       Ie. Nid yw Llywodraeth Cymru am wthio pobl ymhellach i dlodi tanwydd. Efallai y byddai’n fwy priodol gwneud rhywbeth arall yn y tymor byr i helpu’r bobl hynny, cyn gosod mesurau gwresogi newydd. Bydd popeth yn cael ei ystyried i weld beth sydd fwyaf buddiol i’r aelwyd.

b.       Cyfeiriodd Ben Saltmarsh (NEA) at fudd ceisiadau aml-gam gan na fydd hyn yn gwahardd cartrefi rhag gosod mesurau ychwanegol. Bydd y gwariant fesul eiddo hefyd yn sylweddol uwch, gan ei gwneud yn bosibl gosod mesurau inswleiddio a gwresogi priodol o dan ddull gwaethaf yn gyntaf, fabrig yn gyntaf a charbon isel yn gyntaf.

                                                                 vi.            Mae Matthew Dicks (CIH Cymru) yn gofyn pa waith sydd wedi’i wneud i sicrhau bod gan y gadwyn gyflenwi a’r llafurlu ddigon o gapasiti ar gyfer y rhaglen?

a.       Gareth Phillips: Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn. 

                                                                vii.            Diolchodd Ben Saltmarsh (NEA) i’r Gweinidog am ei diweddariad a’i chefnogaeth barhaus o ran galw ar Lywodraeth y DU ac Ofgem, ynghyd â phryderon ynghylch gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu. Nodwyd bod cyhoeddiad ynghylch cap prisiau mis Ebrill ar y ffordd yfory. 

                                                              viii.            Mae Mark Isherwood AS yn nodi camau Llywodraeth Cymru i fonitro’r gwaith o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu ac yn gofyn a fydd y Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd yn cynnwys monitro a thargedau yn yr un modd.

a.       Y Gweinidog Cyfiawnder Cmdeithasol a’r Prif Chwip: Gall Llywodraeth Cymru ofyn am y pethau hyn a monitro’r sefyllfa, ond Ofgem sydd â’r pŵer. 

                                                                  ix.            Mae Sioned Williams AS yn cyfeirio at gymhwysedd o ran cyflyrau iechyd ac yn nodi bod Marie Curie wedi gofyn am ystyried gofal diwedd oes fel gofyniad cymhwysedd. A allech chi roi amlinelliad cyflym o’r grwpiau hynny a fyddai’n cael eu cynnwys?

a.       Mae Gareth Phillips yn nodi bod ymarfer wedi’i gynnal fel rhan o’r cynllun blaenorol i gynnwys cyflyrau iechyd amrywiol. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y cynllun newydd a bydd y cyflyrau’n cael eu cydnabod gan NICE. Os bydd y dystiolaeth glinigol yn newid i gefnogi pobl â salwch terfynol, byddwn yn edrych i mewn iddo.

4.       Calor: Datrysiadau gwresogi carbon isel mewn ardaloedd gwledig (Duncan Carter, Rheolwr Materion Corfforaethol)

a.       Rhoddodd Duncan drosolwg o’r risgiau ynghylch gwaethygu tlodi tanwydd ar gyfer cartrefi gwledig oddi ar y grid o ddull pwmp gwres yn gyntaf, gan gynnwys:

                                                               i.            Mae cyfran uwch o eiddo yng Nghymru oddi ar y grid nwy (19%) ac mae’n fwy anodd eu trin.

                                                             ii.            Mae carfan fach o gartrefi lle nad yw pympiau gwres bob amser yn ddatrysiad effeithiol.

                                                           iii.            Mae’n bwysig sicrhau datrysiad fforddiadwy i’r aelwydydd hyn.

                                                           iv.            Gall technoleg gymysg, gan gynnwys pympiau gwres BioLPG a hybrid, helpu i sicrhau bod y newid yn fforddiadwy i’r rhai oddi ar y grid.

                                                             v.            Mae Calor yn bwriadu newid i nwyon hylif adnewyddadwy. Gall hyn, ar y cyd â phwmp gwres, fod yn ddatrysiad i nifer fach o gartrefi, neu ddewisiadau eraill yn lle pwmp gwres ar gyfer y cartrefi ‘anodd eu trin’.

                                                           vi.            Opsiynau ar gyfer datgarboneiddio cartrefi ‘anodd eu trin’, ac ni ddylid targedu cartrefi gwledig yn gyntaf ar gyfer pympiau gwres.

                                                          vii.            Mae angen canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni yn gyntaf, ochr yn ochr â mwy o gefnogaeth/cymhelliant i’r rhai sy’n ‘gallu talu’.

b. Holi ac Ateb a sylwadau

 

                                                        viii.            Mae Mason Steed (yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni) yn nodi diffyg cysylltiad rhwng cartrefi trefol a gwledig. Mae’r teimlad drwg rhwng y gwledig a’r trefol yn golygu bod rhai yn mynd yn rhwystredig gyda’r newid i sero net.

a.       Duncan Carter: Mae’n bwysig gwneud y polisi’n deg. Os nad yw pobl yn credu ei fod yn deg, yna mae’n achosi gwrthwynebiad pan nad yw polisïau’n gyson.

                                                            ix.            Mae Mark Isherwood AS yn nodi bod gofyniad i gwmnïau masnachol sy’n gyfrifol am osod a gweithredu yn y dyfodol ystyried hyn. Mae angen ystyried trafodaethau’r dyfodol â chymunedau a llywodraethau.

                                                             x.            Matthew Dicks (CIH Cymru): Mae 80% o’r stoc dai yn y sector perchen-feddianwyr, ac mae’n ofynnol cymell y rhan honno o’r system dai.

                                                            xi.            Sioned Williams AS:Mae cwestiwn ynghylch y rhai sy’n gallu talu a pha fecanweithiau fydd ar waith i gynorthwyo gydag ariannu. Mae angen rhai cymhellion i’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael cymorth ariannol.

a.       Duncan Carter: Mae costau uwch i lawer o ddatrysiadau carbon isel ar hyn o bryd felly mae angen cymhelliant.

5.       Diwedd

a.       Bydd NEA yn dosbarthu lincs i reolau diweddaraf Ofgem ynghylch gorfodi gosodiad mesuryddion rhagdalu, Monitor Tlodi Tanwydd y DU, a sleidiau o’r cyfarfod. Bydd y dyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn cael ei rannu maes o law.

b.       Diolchodd Mark Isherwood AS i bawb am eu cyfraniadau a’u presenoldeb.